5.5.06

Piano Man

Ma'r brawd 'ma sgin i wedi bod mor garedig a dangos y gan wych yma i mi, ac o ran myrrath dyma drio'i gosod hi'n fama.

18.3.06

Steddfod Sir

Steddfod Sir 12-15 heddiw yn Brynrefail. Mi godish i heb fod yn gwybod a o'n i am fynd neu beidio, ond yn y diwadd mynd wnes i achos mod i'n cal traffath sgwennu dim i'r Genedlaethol. Tyff, ma dyddiad cau honno'n ddigon pell.

Ges i fys am un o'r city i Gaernarfon, a panad sydyn wedyn yn Caffi Maes cyn cael yr un 2.05 i Lanrug. Mi ffendish i'r ysgol yn y diwadd, ar ol trampsio drwy ryw stad - do'n i ddim yn gwbod cynt fod Llanrug yn lle mor fawr. Steddfod yn eitha da - welish i ddim llawar, malu cachu yn y caffi fus i y rhan fwya o'r amsar.

Am y canlyniadau, mi oeddan nhw'n dda iawn - wel ar wahan i'r cam gafodd Elen 'Rhafod ar yr unawd cerdd dant. Mi enillodd yr academia 'cw ar y parti cerdd dant, a haeddu hynny hefyd er ei bod hi'n eitha tynn rhyngddyn nhw a Syr Hugh. Y canlyniad gora fodd bynnag oedd y Cyflwyniad Llafar; mi o'n i'n hanner disgwyl i'r beirniad fynd am "feiddgarwch", "gwreiddioldeb" a "chreadigrwydd" Syr Hugh. Hynny ydi, mi oedd Syr Hugh yn son am thongs a drygs, ac yn trio actio plant Sgubor Goch, ac yn gwneud rhyw ffigarings. Pob parch, ond mi o'n i'n ei gweld hi'n ffiaidd braidd eu clywed nhw'n traethu mor huawdl a llawen am ddigartrefedd aballu, canu 'Byw mewn Bocsys' a 'Sgin Tony ddim ty' yn hapus wrth son am bobol go iawn. Pobol wrth gwrs sydd filltiroedd i ffwrdd o gyfforddusrwydd Cae Gwyn. Nid bai'r plant ydi hyn wrth gwrs, ac nid o angenrheidrwydd bai eu hyfforddwyr nhw, ond fe drawodd o fi fel peth di-chwaeth iawn.

Ar y llaw arall, mi oedd Glan-y-Mor yn llawn haeddu'r wobr gynta a gaethon nhw. Detholiad cryf i ddechra, yn rhedag yn esmwyth ac yn cynnwys amrywiaeth fawr o gerddi gwahanol ond a oedd yn uno'n llwyddiannus. Doedd gynnyn nhw ddim perfformwyr mawr, dim (ond un neu ddau) gwyneba Glanaethwy, ond mi oedd o'n berfformiad o'r galon. Maen nhw, Enid Parri ac yn enwedig Mererid Llwyd wedi gweithio'n eithriadol o galad i gyrraedd y safon yma. Diolch fod y beirniad wedi sylweddoli hynny ac wedi gwobrwyo'r rhai a oedd yn gwir haeddu'r wobr ac nid y sioe ddi-ddim urddesque.

Mi fum i yn (y) Galeri neithiwr i wrando ar Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn y Doc. Mi oedd o'n lle digon cyfforddus a dweud y gwir, oni bai fod y swn yn diflannu i'r to, ac o achos hynny roedd hi'n anodd clywed dim. Mi o'n i wedi disgwyl mai darllen eu cerddi eu hunain y bydden nhw, ond cyflwyno rhai o gerddi TGAU a Safon Uwch roedden nhw. Roedd hynny'n hwb yn ei bryd i mi am wn i! Cyflwyniadau ardderchog a dweud y gwir, ond dim ond disgyblion o Syr Hugh oedd yno. Pam ddiawl na fysa'r peth wedi cael ei hysbysebu'n well - i'r gynulleidfa darged yn yr ysgolion er enghraifft?!

Os na ddychwela i cyn pen wythnos, mi fysa'n werth son mod i'n cael mynd i Dy Newydd y penwythnos nesa ar gwrs yr Urdd, efo Bethan Gwanas a Mererid Hopwood. Dydw i ddim wedi gweld y ty ers iddo fo gael ei adnewyddu - mi fydd yn ddifyr.

Adios gyfeillion.

6.2.06

Sori

Reit, ma'n ddrwg iawn gin i beidio deud dim byd am oesoedd - prysur! Ond dwi mewn gwers eitha rhydd rwan wedyn sgin i ddim esgus.
Be dwi wedi bod yn 'i neud dros y mis dwytha ma dwch? Yn nechra mis Ionawr mi fus i yn Ngholeg y Bala i aduniad Souled Out. Mi oedd y cwrs yn yr ha' yn wych (haeddu postiad arall rywdro!) ac er nad oedd 'na cweit gymaint o bobol yno'r tro'ma mi oedd hi'n braf iawn gweld pawb eto a chael cyfle i gael edrych yn ol ar y flwyddyn a magu hyder ar gyfer hon.
Hefyd yn Ionawr, nes i ennill cadair Chwilog ac mi oedd o'n brofiad braf. Hon oedd 'y nghadair gynta fi ac mi o'n i'n falch iawn mai yn Chwilog ges i hi gan ei fod o'n bentra bach da ac ifanc efo cymuned gry. Tudur Dylan oedd yn beirniadu ac mi oedd o'n adeiladol iawn. Mae'r ymateb dwi wedi gael ers hynny yn wych, pobol yn bod yn neis iawn.
Yn anffodus, mae 'na bethau mwy annymunol wedi bod yn digwydd hefyd, yn enwedig yn Nhrefor efo'r Band. Dwi ddim am son llawer am y sefyllfa gan fod rhai pobol wedi mynd a'r helynt yn rhy faleisus a phersonol yn barod (darllennwch Golwg am yr hanes), ond dwi am ddeud ychydig o fy argraffiadau i. Yn gynta, mae o'n dangos sut mae awdurdod yn mynd i ben rhai pobol a'u bod nhw'n mynnu ei ddefnyddio fo i wneud i rai erill ddioddef. Y peth gwaetha am yr holl helynt ydi bod y bobol yma yn diystyrru'r ffaith eu bod nhw'n amharu ar draddodiad gwych a'u bod nhw'n fodlon ei ddinistrio fo yn enw brwydrau personol. Yn ail, mae'r gwir yn brifo. Er bod 'na rai pobol wedi ceisio gwneud rhywbeth am y mater mewn modd call a chyfrifol gan geisio gwneud yr hyn sy'n deg, mae'n amlwg fod rhai eraill wedi gwylltio'n gacwn am y peth ac wedi trin y rheini'n gwbl ffiaidd.
Ond problem y bobl hynny ydi'r gabwtsh rwan - allwn ni wneud dim byd ond bod yn onest a gobeithio nad ydi'r ochor aral wedi dinistrio'r Band yn derfynol.

Ta waeth! Fus i yn Bala eto dros y penwythnos dwytha 'ma ar gwrs ieuenctid a chael andros o amser da. Nesh i fwynhau gymaint, dwi'n mynd yn ol wsos nesa!!

Hwyl am rwan.

20.12.05

Megis llais yn y diffeithwch o bostiad...

Reit, dyma gychwyn blogio - 'y mhostaid cynta i cofiwch. Sgen i fawr o'm byd i'w ddeud ar hyn o bryd, dim ond gwneud yn siwr bod y peth wedi gweithio. Mi ddaw 'na fwy mewn tipyn ma siŵr...hwyl.